Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2014

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(232)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.21

 

</AI2>

<AI3>

3     Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i Sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad

 

Dechreuodd yr eitem am 14.29

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5634 Jane Hutt AC (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:

 

1. Yn sefydlu Pwyllgor ar amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol; a

 

2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar y polisi a’r ystyriaethau deddfwriaethol sy’n ymwneud â chael gwared â’r amddiffyniad “cosb resymol” mewn cysylltiad â churo plentyn, yn sgîl adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei adroddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

21

53

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI3>

<AI4>

4     Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth

 

Dechreuodd yr eitem am 14.39

 

</AI4>

<AI5>

5     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Imiwneiddio - cynnydd a brechiadau

 

Dechreuodd yr eitem am 15.03

 

</AI5>

<AI6>

6     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Rhaglen Twf Swyddi Cymru yn y Dyfodol

 

Dechreuodd yr eitem am 15.39

 

</AI6>

<AI7>

7     Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliannau mewn perthynas â Ffioedd Asiantaethau Gosod

 

Dechreuodd yr eitem am 16.15

 

NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

8     Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – darpariaethau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant

 

Dechreuodd yr eitem am 16.19

 

NDM5627 Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI8>

<AI9>

9     Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 16.23

 

NDM5632 Leighton Andrews (Rhondda)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<AI10>

10Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.22

 

NDM5633 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI10>

<AI11>

11Dadl: Effaith Diwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru

 

Dechreuodd yr eitem am 17.22

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a

 

b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:

 

y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn ennill drwy fynd allan i weithio; a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

11

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r nod o ddileu tlodi plant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

11

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a

 

b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.

 

2. Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

 

3. Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI11>

<AI12>

12Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 18.16

 

</AI12>

<AI13>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.19

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>